Yr Adran Ffiseg![]() Ffiseg yw’r pwnc mwyaf sylfaenol o’r gwyddorau craidd. Fel Ffisegwyr rydym yn astudio mater, egni ac sut maent yn rhyngweithio a’i gilydd. Yn ystod astudiaethau mi fydd disgyblion yn astudio grymoedd, egni, trydan a'r gofod.
Rydym yn adran hyderus a brwdfrydig sydd yn cydweithio’n agos gyda’n gilydd. Mae’r gwersi Ffiseg yn cynnwys cymysgedd o waith theori a gwaith arbrofol. Lefel Uwch ac UwchgyfrannolLluniwyd y maes llafur lefel Uwch ac Uwch gyfrannol ar y ddealltwriaeth bod yr ymgeiswyr wedi dilyn cwrs TGAU Ffiseg hyd at oedran 16+. Dysgir y maes llafur fel y gellir dangos undod y gwahanol bynciau trwy gyfeirio'n gyson at y prif syniadau o rymoedd, egni a rhyngweithio a mater fel sy'n addas i thema sylfaenol o ymagwedd folecwlar at ffenomenâu ffisegol.
Byddwn yn cyflwyno cwrs modiwlaidd a thrwy hynny gynnig dewis o naill ai cwrs Lefel Uwch neu Uwch Gyfrannol yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y cwrs Uwch Gyfrannol yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd â’r gallu neu â’r cymwysterau ar gyfer cwrs Lefel Uwch ond sydd angen cefndir Ffisegol ar gyfer pynciau eraill. Fe fydd posibilrwydd i'r ymgeiswyr sydd wedi ennill graddau uchel ar Lefel Uwch Gyfrannol (yn ystod y flwyddyn gyntaf) fynd ymlaen i ddilyn y cwrs Lefel Uwch Gyfrannol yn ystod eu hail flwyddyn. Mae'r cwrs Lefel Uwch yn addas ar gyfer ymgeiswyr sydd am astudio Ffiseg ymhellach neu ymgeiswyr sydd angen cefndir Ffisegol ar gyfer meysydd eraill. Patrwm Asesu Yn y flwyddyn gyntaf, bydd tri modiwl yn cael eu hastudio a’u rheoli : PH 1 Ffiseg Sylfaenol, Cinemateg, Egni ac Cylchedau Trydanol PH 2 Tonnau, Cwanta, Mater a Sêr PH 3 Ffiseg ymarferol Byddwn yn astudio tri modiwl arall ar gyfer y Lefel Uwch yn yr ail flwyddyn. PH 4 Osgiliadau, Momentwm, Ffiseg Thermol, Meysydd, Grymoedd ac Orbitau PH 5 Cynhwysiant, Meysydd Magnetig, Anwythiad Electromagnetig, ymbelydredd, Ffiseg Niwclear ac Uned Dewisol PH 6 Ffiseg Arbrofol Yn ystod y flwyddyn gyntaf (Ionawr a / neu Haf) arholir y tri modiwl. Gellir ail sefyll pob modiwl un waith yn unig. Gellir defnyddio’r canlyniadau naill ai i barhau â’r cwrs Lefel Uwch neu i ennill tystysgrif Uwch Gyfrannol. Arholir y pedwerydd a phumed modiwl yn ystod yr ail flwyddyn. Yn ogystal, bydd gwaith ymarferol yn cael ei asesu yn PH6 ac fe fydd hyn yn cyfrannu 10% tuag at y cwrs Lefel A. ![]()
|
StaffMr Dewi Davies (Pennaeth Adran), meysydd o ddiddordeb: Astroffiseg ac Ffiseg Niwclear.
Mr Owain Williams Mr Andrew Jenkins TGAUO flwyddyn 9 bydd myfyrwyrr yn dilyn manyleb CBAC TGAU Ffiseg. Mae hwn yn gwrs modiwlaidd sy’n cynnwys tair uned theori (P1, P2 a P3) ac aseiniad ymchwiliol (asesir yn y ganolfan).
Manyleb Ffiseg TGAU: http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/6359.pdf Papurau Ymarfer TGAU: http://www.cbac.co.uk/index.php?subject=96&level=7&list=paper ![]()
Uwch ac UwchgyfrannolPapurau Ymarfer:
http://www.cbac.co.uk/index.php?subject=96&level=21&list=paper Dogfennau cefnogol: http://www.cbac.co.uk/index.php?subject=96&level=21&list=docs Gwefannau diddorolRhaglennu Java Uwch & Uwch gyfrannol
http://www2.swgc.mun.ca/physics/physlets.html Cyflwyniadau PowerPoints Ffiseg TGAU http://www.ngfl-cymru.org.uk/vtc/ngfl/science/p_james_physics/w_index.htm Wefan adolygu ar gyfer nifer o bynciau (gan gynnwys Ffiseg!). http://www.s-cool.co.uk/index.html Fideos byr am symbolau Ffiseg ei arwyddocâd a’i hanes http://www.sixtysymbols.com/# Animeiddiadau rhyngweithiol gan brifysgol Colorado http://phet.colorado.edu/en/simulation/energy-skate-park Animeiddiadau Ffiseg ar gyfer lefel Uwch ac Uwch gyfrannol http://www.surendranath.org/Apps.html Wefan adolygu Bitesize BBC http://www.bbc.co.uk/cymru/tgau/ |