YSGOL GYFUN GWYNLLYW
  • Hafan
  • COVID-19
  • Gwybodaeth / Info
    • Cysylltu/Contact
    • Digwyddiadau i Ddod
    • Gwybodaeth Pwysig/ Important Information
    • Pecyn Gwybodaeth Rhieni / Parents' Information Pack
    • Pontio / Transition
  • Facility Hire
  • Cwricwlwm / Prospectws
  • Allgyrsiol
  • Porth Dysgwyr
  • Porth Staff
  • Polisiau / Policies
  • Cyfryngau yr Ysgol - Arweinwyr Digidol
  • Staff
  • Governing Body
  • Y Ffreutur/The Canteen
  • Cyngor Gyrfaoedd/Careers Advice
  • Her yr Haf 2019
  • Lles/Wellbeing
  • Cylchgrawn Gwynllyw
  • Pontio
  • Datblygu'r Medrau
  • Medi 2020/ September 2020
  • Asesiad Risg Covid-19 Medi / September Risk Assessment
  • Hafan
  • COVID-19
  • Gwybodaeth / Info
    • Cysylltu/Contact
    • Digwyddiadau i Ddod
    • Gwybodaeth Pwysig/ Important Information
    • Pecyn Gwybodaeth Rhieni / Parents' Information Pack
    • Pontio / Transition
  • Facility Hire
  • Cwricwlwm / Prospectws
  • Allgyrsiol
  • Porth Dysgwyr
  • Porth Staff
  • Polisiau / Policies
  • Cyfryngau yr Ysgol - Arweinwyr Digidol
  • Staff
  • Governing Body
  • Y Ffreutur/The Canteen
  • Cyngor Gyrfaoedd/Careers Advice
  • Her yr Haf 2019
  • Lles/Wellbeing
  • Cylchgrawn Gwynllyw
  • Pontio
  • Datblygu'r Medrau
  • Medi 2020/ September 2020
  • Asesiad Risg Covid-19 Medi / September Risk Assessment
Search by typing & pressing enter

YOUR CART

Picture

Gwybodaeth Pwysig / Important Information

23/3/2016 0 Comments

Brussels Trip - Important Information                  Taith Brwsel - Newyddion Pwysig

Picture
Yn dilyn y digwyddiadau trist ym Mrwsel ddoe, yr ydym wedi canslo’r daith a oedd wedi ei drefnu ar gyfer yr haf. Bydd llythyr ac ad-daliad yn cyrraedd trwy’r post i ddisgyblion maes o law.
 
Following the tragic events in Brussels yesterday, we have decided to cancel the trip that had been arranged for the summer. An explanatory letter and full refund will be sent by post to pupils in due course.
 
Diolch am eich cydweithrediad/Thank you for your co-operation

0 Comments

22/3/2016 0 Comments

Cinio Ysgol / School Dinners

Annwyl Riant / Warcheidwad,

Ar ôl ystyried yn ofalus, mae adran Arlwyo Torfaen wedi gorfod cymryd y cam i gynyddu pris cinio ysgol. Roedd y cynnydd diwethaf ar waith ym mis Ebrill 2013. Bydd y cynnydd hwn yn cychwyn o Ebrill 11eg, 2016. O hynny ymlaen bydd cinio ysgol yn cael eu prisio yn £ 2.20.

Diolch i chi am eich cefnogaeth ddiamwys
Mr H E Griffiths
Prifathro
 
 
Dear Parent / Guardian,
 
After careful consideration, Torfaen’s Catering Division has had to take the step to increase the price of a school lunch. The last increase was implemented in April 2013. This price increase will take effect from April 11th 2016. From then on a school lunch will be priced at £2.20.
 
Thank you for your unequivocal support
Mr H E Griffiths
Head Teacher

0 Comments

22/3/2016 0 Comments

Diwrnod Gwisg Anffurfiol / Mufti Day 24.03.16

                                                                                               
 
Annwyl Riant / Warcheidwad,
 
Ar gais nifer fawr o ddisgyblion, byddwn yn cynnal diwrnod gwisg anffurfiol ar Ddydd Iau 24ain o Fawrth .  Golyga hyn y gall disgyblion wisgo’u dillad anffurfiol yn hytrach na’r wisg ysgol arferol, os dymunant, am ddâl o £1.00. Disgwylir i’r disgyblion lynu wrth y rheolau iechyd a diogelwch ynglŷn â gemwaith.  Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at weithgareddau allgyrsiol yr ysgol.
 
Yn gywir,

Mr H E Griffiths
 Pennaeth
                                   
…………………………………………………………………………………………………
 
 
Dear Parent / Guardian,
 
At the request of the pupils, we have decided to hold a “MUFTI” Day on Thursday 24th  of March. This means that pupils can wear their civilian clothes as opposed to the normal school uniform, if they wish to, in return for a payment of £1.00.  We still expect pupils to adhere to the health and safety rules regarding jewellery. The monies raised in this venture will go to support the many extra-curricular activities run by the school.
 
Yours faithfully,
                     
Mr H E Griffiths
 Headteacher                         

0 Comments

18/3/2016 1 Comment

Diwrnod Sports Relief

Picture
Merched o flwyddyn 8 wedi bod yn brysur yn pobi a gwerthu cacennau I godi arian I Sports Relief. Fe fydd Ellyz Knorz a Seren Tremayne hefyd yn gwneud taith seiclo noddedig dros benwythnos Sports Relief. Pob hwyl I chi ferched a diolch am y cacennau hyfryd!
 
Year 8 girls have been busy baking and selling cakes to raise money for Sports Relief. Ellyz Knorz and Seren Tremayne will also be undertaking a sponsored bike ride over the Sports Relief weekend. Best wishes to the girls and thank you for the delicious cakes!
1 Comment

17/3/2016 0 Comments

Eisteddfod Sir yr Urdd

Picture
Picture
Picture
Picture
Aeth bws mini o ddisgyblion Gwynllyw draw i Ysgol Gyfun Cwm Rhymni ar y 10/03/2016 i gystadlu yn yr Eisteddfod Sir. Ar ôl wythnosau o ymarfer a dysgu geiriau bob amser cinio ac ar ôl ysgol roedden nhw’n barod i fynd.
Y gystadleuaeth gyntaf oedd y Grŵp Llefaru bl. 7-9. Alex Hoey, Loti Glyn, Bronwen Clatworthy, William Dalgleish, Morganna Davies, Kai Fish, Martha Smith, Rowena Smith a Megan Wood oedd yn cystadlu. Detholiad o ‘O'r Uchder hwn’ gan Meirion MacIntyre Huws oedd y darn ac fe berfformiodd y  9 ohonynt yn wych. Penderfynodd y beirniaid eu bod yn llawn haeddu’r wobr gyntaf.
Roedd tri yn cystadlu yn y gystadleuaeth Llefaru unigol bl.7-9, gyda Loti ac Alex yn cynrychioli Gwynllyw. Llefarodd y ddau'r darn ‘Mae Safle ar y We’ gan Tudur Dylan Jones yn hyfryd. Cipiodd Alex Hoey y wobr gyntaf, gyda Loti yn derbyn yr ail wobr. Da iawn chi.
Yna daeth hi’n dro i wylio’r ymgomiau. 2 grŵp o Ysgol Gyfun Gwynllyw oedd yn cystadlu gan berfformio sgript yn seiliedig ar nofel  Daniel Owen. Y cyntaf ar y llwyfan oedd Tirion Tibbs a William Dalgleish- y ddau wedi gwisgo fel eu cymeriadau- a wig llwyd Tirion yn edrych yn ddigon o sioe! Nesaf daeth Loti Glyn ac Alex Hoey i’r llwyfan gan roi perfformiad gwreiddiol ac unigryw.
Ar ôl tipyn o ystyried fe benderfynodd y beirniaid roi’r ail wobr i Tirion a Will, gan roi’r cyntaf felly i Loti ac Alex. Llongyfarchiadau mawr!
Dywedodd Loti am y profiad: ‘Mwynheuais y profiad yn fawr ac roedd yn brofiad da i roi hyder i fi berfformio yn y dyfodol’ gydag Alex yn ychwanegu ‘Roeddwn i wedi mwynhau perfformio o flaen cynulleidfa a dangos beth oeddwn i yn gallu gwneud!’
Felly yn mynd ymlaen i gynrychioli’r sir yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir y Fflint rhwng 30 Mai - 4 Mehefin 2016 fydd:
Alex Hoey:  Llefaru Unigol bl.7-9
Grŵp Llefaru bl.7-9.
Loti Glyn ac Alex Hoey:  Ymgom bl.7-9.
 
Diolch yn fawr iawn i Miss Jones am eu hyfforddi. Ymlaen i’r Genedlaethol!
Pob lwc i bob un ohonoch.

On the 10/03/2016, a full mini bus of very enthusiastic pupils travelled to the County Urdd Eisteddfod.  The excellent performances were the result of weeks and weeks of practising.
The first competition was the Group recital for Years 7-9. The group consisted of Alex Hoey, Loti Glyn, Bronwen Clatworthy, William Dalgleish, Morganna Davies, Kai Fish, Martha Smith, Rowena Smith and Megan Wood. The text was an extract from ‘O'r Uchder hwn’ by Meirion MacIntyre Huws and the group performed in an excellent fashion.  The adjudicator deemed the group to be deserving of first place.
There were 3 individuals in the Recital competition for individuals Yrs 7-9.  Loti and Alex represented Gwynllyw.  The text was ‘Mae safle ar y we’ by Tudur Dylan Jones which was performed in an engaging manner by both.  Alex Hoey won the first prize and Loti came second. Well done.
It was then time to watch the Dialogue competition.  There were 2 groups from Gwynllyw who performed extracts from Daniel Owen’s novels.  The first pair onto the stage were Tirion Tibbs and William Dalgleish- both dressed in character- Tirion looked fabulous in her grey wig! Then Loti Glyn and Alex Hoey entertained the audience with their original and unique performance.
Following much deliberation, the adjudicators gave the second prize to Tirion and Will and the first prize to Loti and Alex. Congratulations!
When discussing the experience, Loti stated ‘I enjoyed the Eisteddfod very much; it was an excellent experience and helped me gain confidence for the future.’  Alex added ‘I enjoyed performing in front of an audience and showcasing my talents!’.
In the Urdd National Eisteddfod, Gwynllyw will be represented by:
Individual reciting Yrs 7-9 – Alex Hoey
Reciting Group Yrs 7-9
Dialogue – Loti Glyn and Alex Hoey
 
The Eisteddfod this year is in Flint from 30th May to 4th of June.
Thank you very much Miss A. Jones for all the coaching. Onwards and upwards to the National Urdd Eisteddfod!
0 Comments

14/3/2016 0 Comments

Noson Rhieni Bl.6 / Year 6 Parents' Evening

noson_rieni_tymor_2__2016_plant_sydd_wedi_gwneud_cais.pdf
File Size: 115 kb
File Type: pdf
Download File

0 Comments

11/3/2016 0 Comments

Sachau Ffa Pod newydd ar gyfer yr Hafan

Sachau Ffa Pod newydd ar gyfer yr Hafan!
Llwyddodd disgyblion Clwb Darllen Blwyddyn 8 godi dros £250 ym mis Rhagfyr y llynedd yn dilyn y Darllena-hon a ddigwyddodd yn yr Hafan. Dymuniad y disgyblion oedd prynu sachau ffa fel bod darllenwyr yn medru eistedd yn gyfforddus tra’n darllen. Cyrhaeddodd y pedwar sach ffa pod yr wythnos hon, un du, un brown, un coch ac un pinc! Dyma rai o’r disgyblion yn mwynhau darllen!!
 
New Beanbag Pods for the Hafan!
Pupils from the Year 8 Reading Club managed to raise over £250 following the Readathon held in December last year.  It was the pupils’ wish to buy beanbag pods so that readers could come to the Hafan to read in a relaxing manner. We now have a black, brown, red and pink beanbag! Here are some of the pupils enjoying their reading!
 

Picture
Picture
Picture
0 Comments

11/3/2016 0 Comments

Diolch "Dalen Newydd"

Diolch “Dalen Newydd.”
Yn dilyn ymweliad siop “Dalen Newydd” yr wythnos diwethaf, yn ystod wythnos Gŵyl Ddewi a Diwrnod Cenedlaethol y Llyfr, derbyniodd yr Hafan dros 30 nofel Gymraeg newydd sbon oddi wrth perchennog y siop, sef Mrs. Mair Rees. Diolch yn fawr Mrs Rees! Bydd disgyblion yr ysgol yn elwa yn fawr wrth ddarllen yr holl lyfrau hyn.
 
Thank You “Dalen Newydd.”
Following “Dalen Newydd” shop’s visit last week, during Saint David’s Day and World Book Day, the Hafan received over 30 Welsh novels as a thank you gift from Mrs Mair Rees, the owner.  Thank you very much Mrs Rees! The pupils will enjoy reading them.
 

Picture
0 Comments

11/3/2016 0 Comments

BBC Bwletin Ysgol 2016

Picture
Heddiw ar ddegfed ben-blwydd Bwletin Ysgol y BBC cafwyd rhifyn arbennig o’r sioe Taro’r Post ar BBC Radio Cymru eu cynnal yma yn Ysgol Gyfun Gwynllyw. Fe wnaeth disgyblion Blwyddyn 9 cynhyrchu’r sioe ar y cyd gyda chyflwynydd y sioe Mr Garry Owen a drafodwyd pynciau oedd yn bwysig iddyn nhw.
​
Am bythefnos mae’r disgyblion wedi bod yn paratoi ar gyfer cymryd dros donau radio'r BBC ac am awr y prynhawn yma fe wnaeth y grwpiau adlonni’r genedl trwy drafod materion cyfoes ynghylch y refferendwm Ewropeaidd - Mewn neu Mas? Colur yn yr ysgol - a yw hwn yn beth da neu beidio? A yw Blogwyr Fideo megis ‘YouTubers’ yn fodelau rôl dda neu beidio, ac yn olaf, a dylai ni ystyried fod iaith neges testun gan ddefnyddio lluniau h.y. Emojis: A dylai fod yn iaith ryngwladol go iawn?

0 Comments

11/3/2016 0 Comments

Adroddiad Blynyddol y Llywodraethwyr i Rieni / Annual Governors' report to Parents

Gair o'r Gadair....

​Ar ran y Llywodraethwyr a’r staff, pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Adroddiad Blynyddol Ysgol Gyfun Gwynllyw am y flwyddyn academaidd 2014-15. Mae hon eto yn flwyddyn lle gwelwyd gwelliant gyda dysgwyr yn ffynnu ac yn ennill canlyniadau clodwiw ar draws y cwricwlwm gan ddatblygu fel unigolion mewn awyrgylch ddiogel a chyfeillgar.
Mae hefyd yn galonogol iawn i weld twf addysg Gymraeg yng Ngwent gyda sefydlu’r ysgol uwchradd newydd yng Nghasnewydd. Yr ydym wrth ein bodd mai Pennaeth yr ysgol newydd honno yw Rhian Wyn Dafydd sydd â chysylltiadau gyda Gwynllyw a Chwm Rhymni fydd yn fodd o barhau a chryfhau partneriaethau yn y dyfodol.
Mae llwyddiant yr ysgol yn ddibynnol ar nifer o ffactorau; dysgwyr sydd â chymhelliant i ddysgu ac sy’n cymryd y cyfleoedd a gynnigir iddynt yn ddyddiol; athrawon a staff cynorthwyol sydd ag angerdd i weld dysgwyr yn gwireddu’u potensial ac arweinyddiaeth sy’n darparu awyrgylch lle gall dysgwyr a’r staff ffynnu. Hoffwn ddiolch i’r dysgwyr a’r staff am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn sydd wedi esgor ar y llwyddiant hwn.
Cymerwch ychydig o amser i ddarllen yr adroddiad hwn gan ei fod yn adlewyrchu holl lwyddiannau’r rhai hynny sydd wedi gweithio mor galed a’r teuluoedd sydd wedi’u cefnogi yn ystod y flwyddyn.

​
Dr Alun Thomas

adroddiad_blynyddol_2014_-_15.pdf
File Size: 1385 kb
File Type: pdf
Download File

A word from the Chair....

​On behalf of the Governors and Staff I have great pleasure in introducing the Annual Report for Ysgol Gyfun Gwynllyw for the academic year 2014-15. It is a year in which we have seen continued improvement, with pupils thriving, gaining success with excellent exam results across the curriculum and developing as individuals in a safe and friendly environment.
It is also encouraging to see the growth in Welsh medium education in Gwent with the creation of the new secondary school in Newport. We are delighted that the new Head of that School is Rhian Wyn Dafydd, who has connections with both Ysgol Gyfun Gwynllyw and Cwm Rhymni, which can only serve to strengthen partnerships in the future.
The success of a school is dependent on many factors. Pupils who want to learn and who take hold of the opportunities they are given to develop each day. Teachers and support staff who have a passion to see the pupils exceed expectations, and leadership that provides an environment where both pupils and staff thrive. I would like to thank the pupils and staff for their hard work during the year which has led to this success.
Please take time to read this report as it reflects the success of all who have worked so hard and the families who have supported them during this last year.
​
Dr Alun Thomas


0 Comments

8/3/2016 0 Comments

Dydd Gwyl Dewi - Eisteddfod Ysgafn

Picture
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Ysgafn yn Neuadd Ysgol Gwynllyw ar brynhawn Mawrth, Mawrth y 1af er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi.  Cafwyd cystadlu brwd rhwng y pedwar llys, sef Llwyd, Ebwy, Wysg a Rhymni mewn cystadlaethau fel “Band Cegin,” “Dweud Jôc,” “Côr Chwibanu,” “Dawnsio Disgo,” “Côr” a chystadleuaeth “Stori a Sain” ar gyfer yr athrawon.  Yn fuddugol ar ddiwedd y prynhawn oedd llys Wysg, gyda 50 o bwyntiau, yn ail agos roedd Llwyd gyda 46 o bwyntiau, yn drydydd a phedwerdydd roedd llys Ebwy a Rhymni gyda 36 a 34 o bwyntiau.  Llongyfarchiadau gwresog i Mrs. Nia Goode a Miss Jessica Jones, athrawon dosbarth Wysg a disgyblion Wysg i gyd am fod mor dalentog!! Edrychwn ymlaen at Eisteddfod Ysgafn 2017!!

On the afternoon of March the 1st, to celebrate St. David’s Day, an ‘Alternative’ Eisteddfod was held in the school hall.  There was fierce competition between the four houses, namely Llwyd, Ebwy, Wysg and Rhymni in competitions such as “The Kitchen Band,” “Telling a Joke,” “The Whistling Choir,” “Disco Dancing,” “Choir,” and a “Story and Sounds” competition especially for the teachers.  Wysg house were victorious at the end of the afternoon with 50 points, in close second place were Llwyd with 46 points, and in third and fourth place with 36 and 34 points were Ebwy and Rhymni. Huge congratulations to Mrs. Nia Goode and Miss Jessica Jones, the Wysg form tutors and to all the talented Wysg pupils!! We look forward eagerly to the ‘Alternative’ Eisteddfod in 2017!!
0 Comments

8/3/2016 0 Comments

Nosweithiau Pontio - Transition Evenings

Dros yr wythnosau diwethaf mae tîm bugeiliol Blwyddyn 7 wedi ymweld â'r ysgolion cynradd sy'n ein bwydo i roi mwy o wybodaeth ar y broses bontio a thaith Glanllyn. Mae'r holl wybodaeth nawr wedi'i diweddaru ar ein dalen arbennig ar gyfer rhieni Blwyddyn 6. Gallwch ddefnyddio'r linc isod i fynd at y ddalen honno, neu glicio ar 'Pontio' o dan y tab 'Gwybodaeth' uchod.

During the past few weeks, the Year 7 pastoral team has visited each of our feeder primary schools to give more information on the transition process and the trip to Glanllyn. All of the information has now been updated on our dedicated page for Year 6 parents. You may use the link below to reach that page, or click on 'Transition' under the 'Info' tab above.
Pontio/Transition
0 Comments

7/3/2016 0 Comments

Diwrnod y Llyfr / World Book Day

Roedd nifer o ddathliadau yn yr Hafan yn ystod Diwrnod y Llyfr.  Daeth stondin o siop “Dalen Newydd” mewn, a cafodd disgyblion ac athawon gyfle i brynu nwyddau Cymraeig a llyfrau Cymraeg. Yn ogystal, trefnwyd Ffair Ffeirio, a daeth nifer o ddisgyblion â llyfrau ail-law o mewn gan achub ar y cyfle i’w cyfnewid am rai arall. Oherwydd llwyddiant y stondin Ffair Ffeirio fe fydd yn parhau am ychydig wythnosau, felly ddisgyblion os ydych wedi gorffen gydag ambell lyfr dewch â nhw i’r Hafan.
 
There were many events happening in the Hafan (school library) during World Book Day.  “Dalen Newydd” bookshop brought in a stall, and pupils and teachers were given the opportunity to purchase Welsh goods and Welsh books.  A Book Swop was also arranged, and many pupils brought in their used books in exchange for other books. Due to the success of the Book Swop, it will continue for a few weeks, so pupils if you have any unwanted books, bring them to the Hafan.

Picture
Picture
Picture
Picture
0 Comments

4/3/2016 0 Comments

Llyfr yn Anrheg

Dyma aelodau y Pwyllgor Eco, sef Miss Rachel Hamer, Kallie Taylor, Jacob Hooper, Joseph Archer, a  Daniel Snelling yng nghwmni Miss Helen Thomas, Llyfrgellydd yr ysgol, yn derbyn llyfr fel rhodd oddi wrth Mr Jeremy Randles, (yn absennol o’r llun), sy’n gweithio fel rheolwr safle’r Weplyfr i elusen amgylcheddol “Population Matters.” Bydd y llyfr clawr caled yn adnodd gwerthfawr ar gyfer yr ysgol. Y mae gan Mr Randles gysylltiad agos gyda’r ysgol – mae’n briod gyda Ms Jane Blank, sy’n athrawes yn yr ysgol ac yn riant i ddau gyn-ddisgybl.

 
Here are members of the school’s Eco Group, namely Miss Rachel Hamer, Jacob Hooper, Kallie Taylor, Joseph Archer and Daniel Snelling with Miss Helen Thomas, the school librarian, accepting a gift from Mr Jeremy Randles (absent from the photo) who works as the Facebook manager for the environmental charity “Population Matters.”  The hardback book will be a very precious recourse for the library. Mr Randles has a close connection with the school – he is married to Ms Jane Blank, one of the teachers and is a parent to two former pupils.
 

Picture
0 Comments

    Archif/Archives

    July 2020
    May 2020
    March 2020
    February 2020
    January 2020
    December 2019
    November 2019
    September 2019
    July 2019
    June 2019
    February 2019
    January 2019
    December 2018
    November 2018
    October 2018
    September 2018
    August 2018
    July 2018
    June 2018
    May 2018
    April 2018
    March 2018
    February 2018
    December 2017
    November 2017
    October 2017
    August 2017
    July 2017
    June 2017
    May 2017
    April 2017
    March 2017
    February 2017
    January 2017
    December 2016
    November 2016
    October 2016
    September 2016
    August 2016
    July 2016
    June 2016
    May 2016
    April 2016
    March 2016
    February 2016
    January 2016
    December 2015
    November 2015
    October 2015
    September 2015
    August 2015
    July 2015
    June 2015
    May 2015
    April 2015
    March 2015
    February 2015
    January 2015
    December 2014
    November 2014
    October 2014
    September 2014
    August 2014
    July 2014
    June 2014
    May 2014
    April 2014
    March 2014
    February 2014
    January 2014
    December 2013
    November 2013
    September 2013
    August 2013
    July 2013
    June 2013
    May 2013
    April 2013
    March 2013
    February 2013
    January 2013
    December 2012
    November 2012
    October 2012
    September 2012
    July 2012
    June 2012
    May 2012
    April 2012
    March 2012
    February 2012
    January 2012

    Newyddion/
    News

    Dyma Newyddion yr ysgol

    Categoriau/
    Categories

    All 2011 2012 2013 Add Gorff Adeilad Adeilad 3 Adolygu Ariannu Athletics Band Bioleg Bl. 7 Blwyddyn 11 Blwyddyn 13 Blwyddyn 9 Building Building 3 Bws Christmas Clwb Ffilm Coginio Cyfeillion Gwynllyw Datblygiadau Developments Eira Ffair Nadolig Fideo Financing Funding Glyndwr Hanes History Hms Hyfforddiant Inset Mabolgampau Menter Iaith Casnewydd Mrs Lewis Nadolig NUT Pe Prifysgol Raffle Revision Rygbi Sgio Ski Taith Talwrn Technoleg Training Trip Uln University Urdd Year 13 Y Fflam Youtube

    RSS Feed

Powered by Create your own unique website with customizable templates.
Photo used under Creative Commons from alphababy