Noson Wobrwyo Llythrennedd a Rhifedd
Cynhelir Noson Wobrwyo Llythrennedd a Rhifedd flynyddol yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ar nos Fawrth, Gorffennaf y 12ed ar gyfer y disgyblion ym Mlwyddyn 7 sydd wedi bod yn mynychu sesiynau darllen Cymraeg a Saesneg yn yr Hafan gyda Miss Helen Thomas. Dylai pob disgybl wedi derbyn gwahoddiad erbyn hyn. Bydd y noson yn dechrau am 5.00yh a dylai orffen erbyn 6 o’r gloch. Bydd gwobrau a thystysgrifau yn cael eu dosbarthu a bydd cyfle i gymdeithasu dros baned o goffi neu te, a chacen wedi’r gwobrwyo. Edrychwn ymlaen at eich gweld, yn rieni a disgyblion! Literacy and Numeracy Prize Evening. The annual Literacy and Numeracy Prize Evening will be held at Ysgol Gyfun Gwynllyw on Tuesday evening, July the 12th, for those pupils in Year 7 who have had Welsh and English reading sessions with Miss Helen Thomas in the Hafan. Every pupil should have received an invitation by now. The evening will start at 5.00pm and should finish at 6pm. Prizes and certificates will be awarded and there will be an opportunity to socialise over a cup of tea or coffee and cake after the presentations. We look forward to seeing parents and pupils!
0 Comments
24/6/2016 Te i godi arian.Cafwyd tê pnawn bendigedig yn ffreutur Gwynllyw, y cyfan wedi cael ei drefnu gan Fl 12. Dewisiwyd thema Alis yng ngwlad hud, a hudol yn wir oedd y danteithion. Llongyfarchiadau i'r criw ieuanc. Llwyddwyd i godi dros £400 a chafodd dros drigain o bobl eu plesio gyda phlateidiau o fwyd blasus.
Darparwyd y gerddoriaeth gefndirol gan Joseff Archer.
12/6/2016 Gwynllyw yn Nhre-saithCyffro'r tymor hwn yw cwrs tridiau Tre-saith i Fl 8. Ceir ymweliad â'r Cei, llethr sgïo Llangrannog yn ogystal a Pharc Heatherton. Ymwelir hefyd ag Aberteifi a cheir cyfle i ddysgu am gastell Aberteifi ac hanes yr eisteddfod gyntaf. Uchafbwynt y cyfan yw cael ymlacio ar draeth Tre-saith ei hun.
Awel fwyn a swynTre-saith - yn hudo pawb wedi'r caledwaith. A'r hwyl ddaw yn nhonnau'r iaith, hefyd yn rhaeadr afiaith. 10/6/2016 0 Comments Cyngerdd Heno / Concert TonightYn anffodus, mae’r trefnwyr wedi gohirio y gyngerdd ar nos Wener y 10fed o Fehefin yng Nghapel y Methodistiaid, y Fenni. Y dyddiad newydd sydd wedi ei grybwyll ar gyfer y gyngerdd hon yw Medi y 23ain, 2016. Byddwn yn parhau gydag ymarferion y côr iau yn yr ysgol er mwyn eu paratoi tuag at berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â chyngherddau eraill yn y dyfodol. Bydd mwy o fanylion yn dilyn am y digwyddiadau yma yn agosach at yr amser. Diolch yn fawr am eich cydweithrediad, Miss Manon Roberts Pennaeth yr Adran Gerddoriaeth MR@gwynllyw.schoolsedu.org.uk Unfortunately the organisers have cancelled the concert that was due to be held on Friday evening, the 10th of June at The Methodist Chapel, Abergavenny. The new date that has been set for this concert is September the 23rd, 2016. We will continue with the choir rehearsals throughout the half term in order to prepare for performances for the forthcoming National Eisteddfod held at Abergavenny during the summer holidays. More information in relation to these performances will be circulated in the next few weeks. In appreciation of your support, Miss Manon Roberts Head of Music MR@gwynllyw.schoolsedu.org.uk ![]()
10/6/2016 0 Comments Brodyr y bontMae Pont Hafren yn 50 oed eleni ond wyddoch chi bod yna ddisgyblion o Loegr yn ei chroesi bob bore er mwyn cael addysg Gymraeg? Dyna'n union sy'n wynebu Jacques a Louis Davies-Cren o Fryste bob bore. Mae eu tad yn eu cludo dros y bont er mwyn iddyn nhw ddal bws ym Magwyr i fynd â nhw i Ysgol Gyfun Gwynllyw ger Pontypŵl. Er eu bod yn byw yn Lloegr mae'r brodyr wedi cael addysg Gymraeg ers eu bod yn ifanc iawn. Cyn mynd i'r ysgol uwchradd roedd y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Gymraeg Y Ffin yng Nghil-y-Coed. Mae eu brodyr ieuengach Tom, 10, ac Evan, wyth, yn ddisgyblion yno ar hyn o bryd. Blinedig "Mae'r teithio yn flinedig iawn - mae'n cymryd rhwng awr i awr a hanner bob ffordd," eglurodd Louis sydd ym mlwyddyn 11. "Er mai 30 milltir sydd rhwng Bryste a'r ysgol, mae'r bws yn mynd rownd y pentrefi gwledig cyn cyrraedd yr ysgol. Ry'n ni'n codi am 06:30 er mwyn bod allan o'r tŷ erbyn 07:30," meddai Jacques sydd yn astudio ar gyfer ei arholiadau Safon Uwch. "Mae'n anodd adeg yr arholiadau gan nad y'n ni 'nôl adre tan tua 17:00 felly does dim llawer o amser ar ôl i adolygu. Rwy' wedi gweithio allan ein bod yn treulio 360 o oriau ar y bws bob blwyddyn - dros 13,000 o oriau ers i ni ddechrau yn yr ysgol, ond mae e werth e am addysg Gymraeg." "Dyw ein ffrindiau ni ym Mryste ddim yn deall pam ein bod ni'n teithio mor bell i'r ysgol a dyw rhai o'n ffrindiau yma yn yr ysgol ddim yn sylweddoli ein bod ni'n byw yn Lloegr," meddai Louis. Aml-ieithogMae'r brodyr yn unigryw hefyd gan mai nid Cymraeg yw iaith yr aelwyd ym Mryste. Meddai Jacques: "Mae Dad yn dod o ogledd Ffrainc felly 'dyn ni'n siarad Ffrangeg gyda fe. Mae Dad yn gallu dweud tri peth yn Gymraeg - 'coch', 'Bore da' a 'Glan Llyn'! "Mae Mam yn siarad Cymraeg on ry'n ni'n siarad Saesneg gyda hi er mwyn cryfhau'n sgiliau yn yr iaith honno. Ryn ni'n siarad Cymraeg yma yn yr ysgol. Os 'dyn ni eisiau rhannu cyfrinach byddwn ni'n dau yn siarad Ffrangeg!" Mae cefndir eu rhieni yn galw am 'chydig o entente cordiale pan mae hi'n dod i chwaraeon yn ôl Louis: "Ry'n ni wedi bod yn gwylio Ffrainc yn chwarae rygbi ar y teledu ers pan roedden ni'n ifanc iawn, felly pan mae hi'n dod i rygbi ry'n ni'n cefnogi Ffrainc. "Fel arall rwy'n credu y bydde 'na lot o ffraeo a dadlau mewn Ffrangeg yn tŷ ni!" Profiad gwerthfawr Mae'r brodyr wedi gwerthfawrogi cael addysg Gymraeg er gwaetha'r teithio. "Mae'n bwysig iawn ac yn ychwanegu at fy sgiliau," meddai Louis. "Rwy'n credu y bydd yn help i mi pan yn mynd i'r brifysgol. Rwy'n awyddus i astudio dylunio neu ffiseg unai yng Nghaerdydd neu'n Abertawe. Bydd yn fy helpu yn y dyfodol hefyd." Mae Jacques hefyd yn falch o fod wedi cael y cyfle i gael addysg Gymraeg ond mae'n gweld un anfantais ar y gorwel o gymharu â'i gyfoedion yn Ysgol Gwynllyw. "Gan fy mod i'n byw yn Lloegr bydd yn rhaid i mi dalu'r ffioedd dysgu llawn pan fyddai'n mynd i'r coleg," meddai. "Mae fy ffrindiau yn gallu manteisio ar y cymorth sydd i'w gael gan Lywodraeth Cymru. Falle dylen ni fod wedi symud i Gymru!" Mae'r ddau frawd yn dweud bod eu dau frawd arall hefyd yn falch o gael addysg Gymraeg. "Mae Tom yn edrych ymlaen am ddod yma ond bydd Evan yn un o'r disgyblion cyntaf i fynd i'r ysgol uwchradd Gymraeg newydd yng Nghasnewydd." Heb os mae profiad y brodyr Davies-Cren yn ffordd unigryw o bontio rhwng gwahanol ddiwylliannau. 7/6/2016 0 Comments Security FobsNodyn caredig: oes modd i fl.11 a 13 ddychwelyd eu ffobiau diogelwch ar gyfer y drysau i’r swyddfa cyn gynted a phosib os gwelwch yn dda?
A gentle reminder: please could year 11 and 13 students return their security fobs to the main office as soon as possible? 6/6/2016 June 06th, 2016llongyfarchiadau i'r llefarwyrDan gyfarwyddyd Ms Anys Jones cafwyd perfformiad campus gan barti llefaru Gwynllyw yn steddfod Y Fflint. Roedd y safon yn uchel ac roedd y criw ysgwydd yn ysgwydd gyda'r goreuon. Da iawn bawb.
y tîm: Loti Glyn, Martha Smith, Alex Hoey, Kai Fish, Will Dalgleish, Rowena Smith, Morganna Davies, Megan Wood, Bronwen Clatworthy. |
Archif/Archives
July 2020
Newyddion/
|