Neges i’ch atgoffa bod Noson Rieni ar gyfer taith Blwyddyn 11 i Efrog Newydd nos yfory (Dydd Mercher) am 6yh yn neuadd yr ysgol.
|
diweddariad_cyfathrebu_ysgol_-_school_communication_update.docx | |
File Size: | 125 kb |
File Type: | docx |
“Preparing for Success” presentation delivered on Wednesday - 19.9.18. If you have any questions, feedback or suggestions, please contact Carys Jenkins - Carys.Jenkins@Gwynllyw.schoolsedu.org.uk

cynlluniollwyddiant.pptx | |
File Size: | 5469 kb |
File Type: | pptx |
Dymunwn eich gwahodd yn gynnes iawn i’n noson “Cynllunio Llwyddiant”, nos Fercher 19.09.2018 am 5pm lle byddwn yn cyflwyno strategaethau adolygu a gweithgareddau sydd wedi eu profi o fudd wrth geisio cadw gwybodaeth ar gof yn ogystal a thechnegau arholiadau llwyddiannus. Byddwn hefyd yn trafod rhan allweddol rhiant wrth gefnogi dysgwr drwy’r broses.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld nos Fercher y 19eg o Fedi.
Carys Jenkins
Pennaeth Cynorthwyol
Dear Parent / Guardian,
We warmly invite you to our “Preparing for Success” evening on Wednesday 19.09.18 at 5pm where we will introduce revision strategies and activities that are helpful with retention of information and additionally outline successful examination techniques. We will also be discussing the essential role of parents during this process.
We look forward to seeing you on Wednesday the 19th of September.
Carys Jenkins
Assistant Head Teacher
12/9/2018 0 Comments
LLUNIAU / PICTURE DAY
On Friday 14th of September Tempest will be in school to take school photos of Years 7, 10 & 12. Please ensure your child is in the correct school uniform. You will have the opportunity to purchase the individual photos over the coming weeks.
5/9/2018 0 Comments
PWYSIG / IMPORTANT

introduction_letter.pdf | |
File Size: | 486 kb |
File Type: |

introduction_letter_welsh__2_.pdf | |
File Size: | 412 kb |
File Type: |

strive_for_95_letterhead_school_attendance__targets_welsh.pdf | |
File Size: | 633 kb |
File Type: |

strive_for_95_letterhead_school_attendnace_targets.pdf | |
File Size: | 567 kb |
File Type: |

pecyn_gwybodaeth_2018-_19_word.docx | |
File Size: | 1314 kb |
File Type: | docx |

gwybodaeth_angenrheidiol.docx | |
File Size: | 17 kb |
File Type: | docx |
5/9/2018 0 Comments
PWYSIG / IMPORTANT
Annwyl Riant/Warcheidwad
Mae’n ddechrau blwyddyn newydd arall ac yr wyf yn edrych ymlaen at groesawu ein disgyblion yn ôl i’r ysgol. Mae Gwynllyw yn dathlu ei phenblwydd yn 30 eleni ac mae’n wych o beth i ystyried bod ein hysgol sydd yn gartref i 900 o blant wedi dechrau gyda 50 o ddisgyblion 30 mlynedd yn ôl. Mae nifer o newidiadau eisoes wedi’u cyflwyno llynedd er mwyn elwa’r disgyblion a chodi safonau ac ymddygiad. Felly ar ddechrau’r flwyddyn newydd ysgrifennaf atoch i roi gwybodaeth i chi am rai o’r newidiadau yn yr Ysgol am eleni.
1. Cyswllt â rhieni. Byddwn yn lansio ap newydd o’r enw ‘Schools Comms’ ym mis Medi. Bydd yr ap hwn yn eich galluogi fel rhieni i ddweud wrthym am absenoldebau ac ati drwy eich ffôn symudol. Byddwn hefyd yn medru cysylltu yn uniongyrchol â chi ar amrywiol faterion - mwy o fanylion i ddilyn yn yr wythnosau sydd i ddod.
2. Adroddiadau i rieni. Rydym yn newid y ffordd yr ydym yn adrodd i chi ar gynnydd eich plenty yn yr Ysgol. Byddwch yn derbyn adroddiad interim yn fwy aml, bydd hwn yn dangos cynnydd yn erbyn targedau diwedd blwyddyn - wedi’u seilio ar y Cwricwlwm Cenedlaethol ac agwedd at ddysgu. Bydd yr adroddiad llawn felly (yr ydych yn ei dderbyn unwaith y flwyddyn) yn fyrrach ac yn defnyddio pwyntiau bwled er mwyn eu gwneud yn haws eu deal tra’mn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol. Ar ddiwedd y flwyddyn Ysgol byddwn yn adolygu’r system gan gymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau gennych chi fel rhieni ar sut i wella ymhellach.
3. Y Gymraeg. Rydym yn poeni bod rhai disgyblion yn syrthio i’r arfer o siarad Saesneg gyda’i gilydd a chyda aelodau o staff. Fel y gwyddoch rydym yn poeni o waelod calon am Y Gymraeg ac yn ymhyfrydu yng ngallu ein disgyblion yn y Gymraeg. Er mwyn ceisio torri ar yr arferion yma byddwn ni fel staff yn gweithredu polisi o beidio ag ymateb i ddisgyblion os ydyn nhw’n gofyn am rywbeth yn Saesneg. Byddwn yn gofyn iddyn nhw ailadrodd yn y Gymraeg. Gobeithio y gwnewch ein cefnogi yn hyn o beth am ei bod yn holl bwysig bod ein disgyblion yn siarad Cymraeg yn yr Ysgol gan nad ydyn nhw’n ei siarad hi y tu allan. Rydym hefyd yn sefydlu cangen o’r Cyngor Ysgol i edrych ar sut i hyrwyddo defnydd o Gymraeg fel iaith gymdeithasol ymhellach - er mwyn adeiladu ar lwyddiant yr Ysgol yn y gorffennol.
4. Cynllun gwobrwyo. Byddwn yn defnyddio cynllun gwobrwyo newydd o fis Medi ymlaen o’r enw Taro’r Targed (Class Charts) Rydym wedi treialu hwn gyda Blwyddyn 8 yn barod ac mae’n profi’n llwyddiannus wrth wobrwyo ymdrech ac ymddygiad da drwy fodd pwyntiau. Mae yna wobrau wedyn am y pwyntiau uchaf. Byddwch chi fel rhieni/gwarcheidwaid yn medru tracio ymdrech ac ymddygiad eich plenty drwy fodd yr ap neu drwy’r we ac eto cewch chi fwy o wybodaeth am hyn yn yr wythnosau i ddod.
5. Diogelwch safle’r Ysgol a diogelwch disgyblion. Gwnaethom dreialu'r defnydd o ‘ffobiâu’ y
llynedd er mwyn gwneud y safle yn fwy diogel - ond yn anffodus ni wnaeth hyn lwyddo am amrywiaeth o resymau. Felly eleni bydd adeiladau’r Ysgol yn agor am 8.30 (ar wahân i’r clwb brecwast fydd ar agor ynghynt) pan fydd staff ar ddyletswydd. Bydd y drysau allanol yn cloi adeg gwersi ac adeg cinio. (Bydd disgyblion yn medru gadael yr adeilad ar unrhyw adeg) Bydd bloc Llanofer a’r ffreutur ar agor i ddisgyblion i gymdeithasu amser cinio. 6. Toiledau. Mae gwelliant wedi bod yn ymddygiad disgyblion yn y toiledau eleni - ond rydym dal yn profi ychydig o fandaliaeth ac ambell ddisgybl yn camfihafio yn y toiledau. Felly yn ystod yr hanner tymor nesaf, byddwn yn dechrau ar y gwaith o dynnu drysau allanol y toiledau i ffwrdd o’r toiledau. Mae hyn wedi’i benderfynu ar ôl trafod gyda’r cyngor Ysgol a thrafod gyda disgyblion a fu I Ysgol gyfagos oedd a thoiledau tebyg - heb brif ddrws. Yr unig ardaloedd fydd i’w gweld i unrhyw un yn cerdded heibio fydd y sinciau golchi dwylo. Mae drysau’r toiledau eu hunain yn wynebu i’r cyfeiriad arall felly bydd preifatrwydd dal yn bodoli. Yn y modd yma rydym am wneud y toiledau yn ardal fwy dymunol i ddisgyblion sydd wedi’i weld gan ysgolion eraill yn defnyddio’r system hwn. 7. Cyngor ysgol. Rydym yn newid y cyngor ysgol i weithio gyda mwy o ddisgyblion a bod y disgyblion hynny yn cael mwy o lais yn rhedeg yr ysgol. Rhennir gwybodaeth gyda’r disgyblion yn yr wythnos neu ddwy nesaf.
Dwi’n siwr eich bod yn deal bod unrhyw newidiadau rydym yn gwneud er lles y disgyblion ac wedi’i drafod yn fanwl cyn mynd ati. Gobeithio felly gallwn gael eich cefnogaeth yn yr hyn yr ydym yn ei wneud a byddaf yn cadw mewn cysylltiad drwy fodd ein Newyddlen yn ystod y flwyddyn
Yn gywir
Miss E Bolton Pennaeth
|
Archif/Archives
July 2020
May 2020
March 2020
February 2020
January 2020
December 2019
November 2019
September 2019
July 2019
June 2019
February 2019
January 2019
December 2018
November 2018
October 2018
September 2018
August 2018
July 2018
June 2018
May 2018
April 2018
March 2018
February 2018
December 2017
November 2017
October 2017
August 2017
July 2017
June 2017
May 2017
April 2017
March 2017
February 2017
January 2017
December 2016
November 2016
October 2016
September 2016
August 2016
July 2016
June 2016
May 2016
April 2016
March 2016
February 2016
January 2016
December 2015
November 2015
October 2015
September 2015
August 2015
July 2015
June 2015
May 2015
April 2015
March 2015
February 2015
January 2015
December 2014
November 2014
October 2014
September 2014
August 2014
July 2014
June 2014
May 2014
April 2014
March 2014
February 2014
January 2014
December 2013
November 2013
September 2013
August 2013
July 2013
June 2013
May 2013
April 2013
March 2013
February 2013
January 2013
December 2012
November 2012
October 2012
September 2012
July 2012
June 2012
May 2012
April 2012
March 2012
February 2012
January 2012
Newyddion/
News
Dyma Newyddion yr ysgol
Categoriau/
Categories
All 2011 2012 2013 Add Gorff Adeilad Adeilad 3 Adolygu Ariannu Athletics Band Bioleg Bl. 7 Blwyddyn 11 Blwyddyn 13 Blwyddyn 9 Building Building 3 Bws Christmas Clwb Ffilm Coginio Cyfeillion Gwynllyw Datblygiadau Developments Eira Ffair Nadolig Fideo Financing Funding Glyndwr Hanes History Hms Hyfforddiant Inset Mabolgampau Menter Iaith Casnewydd Mrs Lewis Nadolig NUT Pe Prifysgol Raffle Revision Rygbi Sgio Ski Taith Talwrn Technoleg Training Trip Uln University Urdd Year 13 Y Fflam Youtube