![]() Llongyfarchiadau enfawr i Nia ac Owain o flwyddyn 9 am gystadlu yng nghystadleuaeth Dr. Oetker yng Ngwesty’r Hilton yn Birmingham ar y 10fed o Orffennaf. Bu rhaid iddynt goginio ac addurno cacennau bach. Bu’r ddau ohonynt yn llwyddiannus iawn. Cipiodd Owain y wobr aur a chafodd Nia’r wobr arian. Roedd y gystadleuaeth yn agored i ddisgyblion ar draws Prydain ac mae’r ysgol a'r rhanbarth Torfaen yn falch iawn ohonynt. Llongyfarchiadau gwresog i chi’ch dau. A huge congratulations must go to both Nia and Owain from Year 9. The two pupils spent the day at the Birmingham Hilton Hotel on Wednesday 10th of July participating in a cooking exhibition sponsored by Dr. Oetker. The idea of the exhibition was for pupils to bake and decorate 6 cupcakes. Both pupils performed extremely well with Owain receiving a Gold prize and Nia receiving a Silver prize. This exhibition was offered to pupils from across Britain, so both Owain and Nia have made both the school and region of Torfaen very proud. Well done to you both! ![]() Llongyfarchiadau mawr i Owain Thomson o flwyddyn 9 am ddod yn 1af yn y gystadleuaeth coginio yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Benfro. Her Owain oedd coginio cawl a rholiau bara. Rysáit sylfaenol a rhoddwyd iddo, a gan fod pwyslais ar fwyta’n iach, doedd dim hawl ganddo ychwanegu halen i’r seigiau. Felly roedd angen i Owain ddewis cynhwysion i ychwanegu at y ryseitiau er mwyn gwella blas y seigiau. Dewisodd Owain goginio Cawl Pys a Mintys a Rholiau Bara gyda chaws. Llwyddodd i ddod i’r brig a braf iawn oedd ei weld yn derbyn ei wobr ar lwyfan y pafiliwn. Da iawn Owain! Congratulations to Owain Thomson from Year 9 for coming 1st in the Cooking competition in the Urdd Eisteddfod in Pembrokeshire. His challenge was to cook soup and make bread rolls. The recipe given was basic, and as there is an emphasis on healthy eating, the contestants were not able to add salt into the dishes. Therefore, Owain had to choose specific ingredients that he thought would add flavour to the dishes. The dishes that Owain choose was Pea and Mint Soup with Cheesy Bread Rolls. We congratulate Owain on his success. Well done Owain! |
Archif/Archives
July 2020
Newyddion/
|